Mae Y Coleg Merthyr Tudful yn dathlu ei lwyddiant parhaus o’i Academi Busnes Fintech, sydd nawr wedi’i sefydlu a rhedeg yn llwyddiannus am sawl mis, yn darparu dysgwyr â phrofiad diwydiant o effaith uchel a sgiliau digidol wedi’u ffocysu ar y dyfodol mewn un o’r sectorau sy’n tyfu cyflymaf yn y DU.
Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth a FinTech Cymru, a’i chefnogi gan sefydliadau arweiniol yn cynnwys Barclays, NILC (Sefydliad Cenedlaethol o Ddysgu ac Ardystio), Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, Mamuza, Final Rentals, Banc Hodge, Creadas ac EY, yn barod mae’r academi wedi darparu rhaglen o ymgysylltiad diwydiant byw, dysgu wedi’i harwain gan gyflogwyr a mewnwelediad fintech o’r byd go iawn am ddysgwyr Busnes, Digidol a TG.
Ers ei lansiad, mae dysgwyr wedi cymryd rhan mewn prosiectau diwydiant, sesiynau siaradwr gwadd, gweithdai cyflogadwyedd ac ymweliadau safleoedd, yn cael aramlygiad i’r ecosystem fintech yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r academi yn parhau i gryfhau cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant, yn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu’r sgiliau, hyder a rhwydweithiau proffesiynol sydd angen i symud ymlaen i mewn i gyflogaeth, prentisiaethau neu addysg uwch.
Llwyddiant cyllido Medr unigryw
Yn adeiladu ar y sylfaen cryf hwn, mae Y Coleg Merthyr Tudful hefyd ydy’r unig goleg yng Nghymru i fod yn llwyddiannus mewn ennill cyllid Medr Cymru Cymuned o Ymarfer Cyflogadwyedd i gefnogi’r datblygiad o sgiliau AI a chyflogadwyedd digidol am ddysgwyr Academi Fintech ym mhellach. Bydd dysgwyr yn ennill bathodynnau digidol cydnabyddedig mewn meysydd del Hanfodion AI, Promptio AI, Dadansoddi Data a Chyfrifiadura Cwmwl, yn eu cyfarparu gyda’r sgiliau gyda galw cynyddol gan gyflogwyr fintech yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Profiad fintech rhyngwladol yn yr UDA
Fel rhan o ymrwymiad yr academi i ddarparu cyfleoedd cyfoethogi rhagorol, bydd dysgwyr hefyd yn cymryd rhan mewn taith astudio Fintech ac Entrepreneuriaeth i Ogledd America ym Mehefin, yn ymweld ag Efrog Newydd, Boston a Washington DC.
Bydd y daith yn rhoi profiad uniongyrchol o’r dirwedd fintech a menter byd eang i ddysgwyr, yn cynnwys ymweliadau i NASDAQ, Bloomberg HQ, Campws Tech Google Efrog Newydd, Siambr Masnach UD a magwryddion tech ym mhrifysgolion. Bydd dysgwyr hefyd yn cyflwyno syniadau busnes i fentoriaid rhyngwladol ac ymgysylltu gyda sylfaenwyr myfyrwyr, arloeswyr a gweithwyr fintech.
Effaith wedi’i ffocysu ar ddiwydiant
Dywedodd Hannah Salter, Pennaeth Busnes, Rheolaeth a Thwristiaeth yn Y Coleg Merthyr Tudful:
“Yn Y Coleg Merthyr Tudful, rydym yn ymrwymedig i baratoi ein dysgwyr am y dyfodol, ac mae’r llwyddiant o’n Hacademi Busnes Fintech dros y misoedd diwethaf, yn enghraifft bwerus o’r ymrwymiad hynny mewn gweithrediad. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda FinTech Cymru a sefydliadau arweiniol fel Barclays, NILC, Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, Mazuma, Final Rentals, Banc Hodge, Credas ac EY wedi ein galluogi i greu profiadau diwydiant ystyrlon sydd yn barod yn gwneud gwahaniaeth go iawn i hyder, sgiliau a dyheadau ein dysgwyr.
Mae sicrhau cyllid Medr fel yr unig goleg yng Nghymru i wneud yn gyflawniad arwyddocaol ac yn ein galluogi i gyfoethogi galluoedd AI a digidol ein dysgwyr ym mhellach, yn sicrhau maent yn cael eu cyfarparu yn dda am y dyfodol o waith. Mae cyfleoedd fel y daith i’r Unol Daleithiau yn dangos uchelgais yr academi a’r profiadau anhygoel sydd ar gael i’n dysgwyr.”
Ychwanegodd Rhys Griffiths, Pennaeth Sgiliau a Thalent yn FinTech Cymru:
“Mae FinTech Cymru yn hynod o falch i fod yn gweithio gyda Y Coleg Merthyr Tudful wrth i’r Academi Busnes Fintech parhau i fynd o nerth i nerth. Dros yr ychydig o fisoedd diwethaf, rydym yn barod wedi gweld yr effaith cadarnhaol mae’r academi hwn yn cael ar ddysgwyr trwy eu cysylltu’n uniongyrchol gyda chyflogwyr, prosiectau o’r byd go iawn a mewnwelediad diwydiant byw.
Mae llwyddiant y coleg mewn sicrhau cyllid Medr i ddatblygu sgiliau AI a digidol yn cryfhau’r piblinell talent am y sector finteh Cymreig ym mhellach. Wedi’i chyfuno gyda mentrau fel yr ymweliad astudio rhyngwladol i’r UDA, mae’r academi yn darparu dysgwyr gyda llwyfan eithriadol i lwyddo mewn diwydiant sy’n tyfu yn gyflym yn wedi’i gysylltu’n fyd-eang.”
Siapio talent y dyfodol i Gymru
Mae’r Academi Busnes Fintech yn cynrychioli cam arwyddocaol ymlaen mewn alinio addysg gydag anghenion cyflogwyr, yn cyfoethogi cyflogadwyedd a chefnogi’r twf o sector fintech Cymru. Trwy gydweithredi