Mae’r Wobr Her yn cael ei rhoi am waith ansawdd uchel mewn herio’r holl ddysgwyr, yn enwedig y fwy abl, i gyflawni eu gorau. Mae’n brosiect cymuned gyfan sy’n anelu i wella canlyniadau ac arferion dysgu, i ymestyn myfyrwyr mwy abl ac i dynnu rhwystrau i’r holl fyfyrwyr.
Gall lleoliadau yn dilyn Rhaglen Datblygiad Her NACE, sy’n eirioli anghenion dysgwyr mwy abl, ymgeisio i dderbyn achrediad Gwobr Her. Mae’r Rhaglen Datblygiad Her wedi trawsnewid miloedd o ysgolion a cholegau ar draws yr holl leoliadau ac oedrannau, yn codi disgwyliadau a chyrhaeddiad gydag effaith cynyddol ar draws y gymuned gyfan.
“Ymrwymiad y staff yw sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei fagu a’i botensial yn cael ei gyflawni. Mae disgwyliadau a dyheadau ai ddysgwyr yn y coleg yn uchel’.
Adroddiad Gwobr Her NACE
Mae achrediad yn cymryd blynyddoedd i gyrraedd, ac mae lleoliadau yn mynd trwy broses gwerthuso drylwyr, gydag asesydd yn archwilio portffolio o dystiolaeth gefnogol, arsylwi gwersi mewn person, a chyfweld a myfyrwyr, athrawon, rhieni a llywodraethwyr.
I gyflawni’r ail-achrediad bydd y coleg wedi arddangos ei fod yn parhau i ddatblygu dysgu ac addysgu rhagorol, lefel uchel o herio i fyfyrwyr mwy abl, diwylliant o ddisgwyliadau a dyheadau uchel a’r ddealltwriaeth bod gallai gallu cael ei amlygu ar draws amrywiaeth o barthau penodol ac nid yn unig mewn pynciau academaidd traddodiadol.
“Ers ennill y Wobr Her NACE am y tro gyntaf mae’r coleg wedi parhau i adeiladu’n llwyddiannus ar ei ddarpariaeth i ddysgwyr mwy abl. Yr allwedd i lwyddiant, fel y cydnabuwyd gan Estyn yn ei hadroddiad 2025, oedd dysgu ac addysgu cyson o ansawdd uchel”.
Adroddiad Gwobr Her NACE
Mae gwella’r ddarpariaeth i ddysgwyr mwy abl yn parhau i fod yn flaenoriaeth i lawer o ysgolion a cholegau. Mae’r profiad a thystiolaeth wedi’i gasglu gan leoliadau achrediad Gwobr Her hefyd yn dangos bod strategaethau effeithiol i wella’r ddarpariaeth i’r fwy abl yn debygol i gael effaith cadarnhaol ar y cyflawniad o grŵp ehangach o ddysgwyr.
“Mae sgiliau a thalentau dysgwyr ar draws sbectrwm eang o bynciau a galluoedd yn cael eu hadnabod ac mae newidiadau addas yn cael eu gwneud i gyrraedd anghenion dysgwyr unigol”.
Adroddiad Gwobr Her NACE
Mae Y Coleg Merthyr Tudful yn chwarae rôl bwysig o fewn y gymuned ryngwladol o sefydliadau achrediad Gwobr Her, yn arddangos ymrwymiad i gwrdd ag anghenion dysgwyr mwy abl a rhannu ei arbenigedd er lles ehangach y gymuned addysg.
Dywedodd Chris Ford, Is-Bennaeth am Gwricwlwm ac Ansawdd ““Rydym yn hynod o falch i gyflawni ail-achrediad Gwobr Her NACE unwaith eto. Mae’r gydnabyddiaeth hwn yn adlewyrchu’r angerdd, arbenigedd ac ymroddiad ein staff, gyda’r uchelgais a phenderfynoldeb ein dysgwyr. Maent yn dyst i gryfder ein dull cyfunol i herio a dyhead ar draws llwybrau academaidd a galwedigaethol Mae cydnabyddiaeth NACE yn gydnabod nid yn unig ein canlyniadau cryf, ond hefyd y diwylliant o ddisgwyliadau uchel, arloesedd a gwelliant parhaus sy’n bodoli ar draws y coleg. Mae darparu cyfleoedd heriol ac o ansawdd uchel i’r holl ddysgwyr, waeth beth yw eu cefndir, yn parhau i fod yn ganolog i’n cenhadaeth o drawsnewid bywydau trwy weithio gyda’n gilydd.”
Darganfod mwy: www.nace.co.uk/challenge