Mae’r coleg wedi ymrwymo i gefnogi ei fyfyrwyr uchelgeisiol. Mae gennym raglen diwtorial a chyfoethogi unswydd a phwrpasol sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr MAT i ymgysylltu ag amrywiaeth o sgyrsiau, gweithdai a chystadlaethau sy’n ymestyn eu dysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac sy’n eu galluogi i fod yn wahanol i bawb arall. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ganfod ac ateb anghenion y dysgwyr hyn cyn gynted ag sydd bosib er mwyn eu galluogi i gael y canlyniadau gorau posib.

Bydd y rhaglen diwtorial a chyfoethogi hon yn cynnwys y canlynol:

Cyfleoedd Cyfoethogi

  • Dysgwyr SEREN (dysgwyr sydd wedi cael 6 TGAU A*) i gael cymorth gan Rwydwaith Seren gydag amrywiaeth o adnoddau a phrofiadau
  • Cymryd rhan yn flynyddol yn y Brilliant Club a’r rhaglen Ysgolorion
  • Rhaglen Diwtorial bwrpasol
  • Cymorth a chanllawiau 1:1 ar gyfer ymgeiswyr Rhydychen, Caergrawnt, Meddygol a Milfeddygol
  • Paratoi ar gyfer cyfweliad yn cynnwys ffug gyfweliadau
  • Siaradwyr Allanol Arbenigol
  • Cymryd rhan yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru a Sgiliau’r DU
  • Dosbarthiadau ymestyn mewn pynciau penodol
  • Gwybodaeth am leoliadau ac ysgolion haf megis  Lleoliadau Nuffield  a Chynllun Cambridge Shadowing
  • Ymweliadau â Phrifysgolion blaenllaw yn cynnwys Rhydychen a Chaergrawnt
  • Cynadleddau Addysg Uwch wedi’u trefnu gan brifysgolion Rhydychen a  Chaergrawnt
  • Cymryd rhan mewn cystadlaethau academaidd e.e. cystadlaethau traethodau prifysgol
  • Mynd i ddigwyddiadau cyhoeddus e.e. Darlithoedd Ysgol y Gyfraith Caerdydd
  • Rhoi cymorth i ddysgwyr MAT iau drwy ddigwyddiadau MAT Blwyddyn 9
  • Datblygu deunydd pontio ar gyfer dysgwyr MAT Blwyddyn 11
  • Gweithdai academaidd yn cynnwys Cymdeithas Drafod a Chlwb Llyfrau
  • Gweithdai arweinyddiaeth
  • Gweithdai chwaraeon
  • Gweithdai creadigol
  • Gweithdai technolegol
  • Gweithdai entrepreneuraidd

Am fwy o wybodaeth am ein cymorth a’n gweithgareddau MAT, cysylltwch â’n Cydgysylltwyr MAT penodol: