Os ydych yn awyddus i symud ymlaen i brifysgol, rydym yn cynnig rhaglen gymorth wedi’i haddasu i’ch helpu ar y ffordd.
Mae’n cynnwys y canlynol:
- Cydgysylltwyr pwrpasol UCAS yn y coleg i’ch arwain bob cam o’r ffordd drwy broses UCAS.
- Help a chymorth i ddatblygu eich datganiadau personol (yn cynnwys sesiynau a gynhelir gan brifysgolion blaenllaw).
- Rhaglen o gymorth ar gyfer cyfweliadau, yn cynnwys cyfweliadau ffug gyda Phrifathro’r coleg.
- Amrywiaeth gyflawn o weithgareddau menter i’ch helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy, meithrin eich hyder a chael profiad o sefyllfaoedd busnes gwirioneddol.
- Digwyddiad Blynyddol Llwybrau Gyrfa’r Coleg i’ch galluogi i siarad â chyflogwyr a phrifysgolion am opsiynau gyrfa ac addysg uwch.
- Rhaglen o ddigwyddiadau, sesiynau cyngor a chanllawiau wedi’u haddasu, yn cynnwys y canlynol,
- Diwrnodau cynllunio gyrfa
- Sesiynau holi ac ateb byw gyda Chydgysylltwyr UCAS
- Digwyddiadau gwybodaeth am wneud cais i Brifysgol i ddysgwyr a rhieni
- Mynd i Arddangosfa flynyddol UCAS
- Sesiynau cyngor a chanllawiau penodol wedi’u cynnal gan brifysgolion allweddol lleol, rhanbarthol ac o’r DU, e.e. cyllido myfyrwyr, y broses gwneud cais ac ati.
Am fwy o gyngor a gwybodaeth, cysylltwch â’n Cydgysylltwyr UCAS penodol:
Chris Lloyd: c.lloyd@merthyr.ac.uk
Bethan Williams: bwilliams1@merthyr.ac.uk
Y Coleg
Os ydych yn gadael ysgol ac yn meddwl am eich camau nesaf neu’n ddysgwr o oedolyn sydd am ddatblygu eich sgiliau a’ch cymwysterau, cewch weld yma pam y dylech ystyried Y Coleg Merthyr Tudful.