Os ydych yn astudio ar lefel addysg uwch, bydd angen i chi wneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) i wneud hynny. Gall y Tîm ADY eich helpu gyda’ch cais, felly mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted ag y bo modd, er mwyn i’ch cymorth fod yn barod ar ddechrau eich astudiaethau.
Os oes gennych anhawster dysgu, problemau iechyd neu anabledd mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn offer cefnogol drwy’r DSA i sicrhau y gallwch gael eich addysg gydag annibyniaeth.
Am fwy o wybodaeth a gweld y broses ymgeisio a chanllawiau cliciwch ar y ddolen yma.
Y Coleg
Os ydych yn gadael ysgol ac yn meddwl am eich camau nesaf neu’n ddysgwr o oedolyn sydd am ddatblygu eich sgiliau a’ch cymwysterau, cewch weld yma pam y dylech ystyried Y Coleg Merthyr Tudful.