Mae’r coleg yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio Cymraeg ar sawl lefel, o’r sylfaenol, i Gymraeg Lefel A.
Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y coleg yn cynyddu ar hyn o bryd – caiff pob dysgwr gyfle i gynhyrchu unrhyw ddarn o’u gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nid oes rhaid i chi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg i elwa ar wasanaethau cyfrwng Cymraeg yn y coleg. Mae ein Swyddog Iaith Gymraeg – Lynwen Harrington yma i roi cymorth i chi a’ch cynghori a chynnig cyfleoedd i chi wneud y canlynol:
- Mynychu gwersi Cymraeg drwy gydol y dydd neu gyda’r nos.
- Cyflwyno’ch gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mynychu lleoliadau cyfrwng Cymraeg ar eich profiad gwaith.
- Ymarfer sgiliau cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cael cymorth i lunio CV cyfrwng Cymraeg.
- Cwblhau eich sgiliau allweddol yn Gymraeg.
- Dysgu mwy am Gymru a’r iaith Gymraeg drwy Fagloriaeth Cymru.
- Astudio sesiynau cymorth sgiliau trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynnwys gweithdai, un i un, grwpiau bach ac yn y dosbarth.
- Cymorth sgiliau astudio penodol i’r pwnc yn cynnwys ceisiadau cyfieithu deunydd cwrs e.e. mathemateg a gwyddoniaeth.
- Siaradwyr gwadd Cymraeg a gweithdai Cymraeg.
- Rhestrau termau a geirfâu dwyieithog ar gais.
- Cyfweliadau ffug cyfrwng Cymraeg.
- Staff dwyieithog yn y dderbynfa, cymorth i fyfyrwyr, yn yr Hafan Dysgu ac i’ch arwain drwy broses UCAS.
- Cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol Cymraeg.
- Dod yn llysgennad yr iaith Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Lynwen Harrington, Swyddog Iaith/Safonau Cymraeg-Welsh Language/compliance Officer.
Estyniad 6331 neu edrychwch ar ein gwefan ddwyieithog
Y Coleg
Os ydych yn gadael ysgol ac yn meddwl am eich camau nesaf neu’n ddysgwr o oedolyn sydd am ddatblygu eich sgiliau a’ch cymwysterau, cewch weld yma pam y dylech ystyried Y Coleg Merthyr Tudful.