Os ydych yn awyddus i symud ymlaen i brifysgol, rydym yn cynnig rhaglen gymorth wedi’i haddasu i’ch helpu ar y ffordd.

Mae’n cynnwys y canlynol:

  • Cydgysylltwyr pwrpasol UCAS yn y coleg i’ch arwain bob cam o’r ffordd drwy broses UCAS.
  • Help a chymorth i ddatblygu eich datganiadau personol (yn cynnwys sesiynau a gynhelir gan brifysgolion blaenllaw).
  • Rhaglen o gymorth ar gyfer cyfweliadau, yn cynnwys cyfweliadau ffug gyda Phrifathro’r coleg.
  • Amrywiaeth gyflawn o weithgareddau menter i’ch helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy, meithrin eich hyder a chael profiad o sefyllfaoedd busnes gwirioneddol.
  • Digwyddiad Blynyddol Llwybrau Gyrfa’r Coleg i’ch galluogi i siarad â chyflogwyr a phrifysgolion am opsiynau gyrfa ac addysg uwch.
  • Rhaglen o ddigwyddiadau, sesiynau cyngor a chanllawiau wedi’u haddasu, yn cynnwys y canlynol,
    • Diwrnodau cynllunio gyrfa
    • Sesiynau holi ac ateb byw gyda Chydgysylltwyr UCAS
    • Digwyddiadau gwybodaeth am wneud cais i Brifysgol i ddysgwyr a rhieni
    • Mynd i Arddangosfa flynyddol UCAS
    • Sesiynau cyngor a chanllawiau penodol wedi’u cynnal gan brifysgolion allweddol lleol, rhanbarthol ac o’r DU, e.e. cyllido myfyrwyr, y broses gwneud cais ac ati.

Am fwy o gyngor a gwybodaeth, cysylltwch â’n Cydgysylltwyr UCAS penodol:

Chris Lloyd: c.lloyd@merthyr.ac.uk

Bethan Williams: bwilliams1@merthyr.ac.uk