Gadewch i ni baratoi gyrfa

Mae Llwybrau’r Dyfodol yma i’ch gosod ar y llwybr i ddyfodol disglair. Os ydych am barhau i astudio, gwneud cais am swydd, dod o hyd i gyflogwyr lleol, dod o hyd i brofiad gwaith, dechrau prentisiaeth neu hyd yn oed sefydlu’ch busnes eich hun- rydym yma i helpu. Mae ein Digwyddiad Gyrfaoedd blynyddol a’n Ffair Swyddi Gwag yn hyrwyddo cysylltiadau cadarn gyda chyflogwyr, prifysgolion, prentisiaethau a chyfleoedd gwaith i’n dysgwyr.

I ddarganfod mwy, e-bost TCMT_EandE@merthyr.ac.uk neu dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol:

  • Instagram: @TCMTEnterprise&Employability
  • Facebook: TCMT Employability and Enterprise
  • X: @TCMTEandE

Darllenwch ein Hadroddiad Effaith Menter Blynyddol diweddaraf.

E2 (Canolfan Menter a Chyflogadwyedd) yw ein tîm ymroddedig sy’n cynnig cyngor cyflogadwyedd, menter, gyrfa a dilyniant pwrpasol.

Rydym yn cynnal amrywiaeth o weithdai i ddysgwyr, sesiynau galw heibio, nosweithiau agored, gwirfoddoli a digwyddiadau gyrfa drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn darparu diweddariadau rheolaidd ar swyddi gwag, cyngor gyrfa, digwyddiadau, sesiynau byw, siaradwyr gwadd a chyfleoedd cyflogadwyedd ledled Cymru a’r DU.

Galwch i mewn i’r Ganolfan E2 ger yr Ardal Mynediad Agored ar y llawr 1af i gael help gyda:

  • Datblygu CV.
  • Llythyrau eglurhaol.
  • Ceisiadau am swyddi.
  • Sgiliau cyfweliad.
  • Sgiliau cyflwyno.
  • Cyngor ar lwybrau gyrfa.
  • Lleoliadau gwaith.
  • Dechreuwch eich busnes eich hun.

Mae’r tîm hefyd yma i helpu i wella sgiliau menter. Gwella creadigrwydd, datrys problemau, a gallu i addasu ar gyfer marchnad swyddi heddiw. Gall y tîm gefnogi’r sgiliau hyn drwy:

  • Cystadlaethau Mewnol: Datblygu a chyflwyno syniadau busnes.
  • Rhaglenni Cychwyn (Tafflab)
  • Cystadleuaeth Sgiliau Menter Cymru: Darparu mentoriaeth ac adnoddau ar gyfer lansio mentrau.
  • Gweithdai: Addysgu sgiliau ymarferol fel marchnata a chyllid.
  • Digwyddiadau Rhwydweithio: Cysylltu myfyrwyr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
  • Meithrin arloesedd a chydweithio, paratoi myfyrwyr ar gyfer llwyddiant entrepreneuraidd!

Datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd